# Rheolwr Seren - Academi Seren

> Equal Teaching · Caerdydd, United Kingdom (Hybrid) · Temporary · Posted 2026-10-07

**Salary:** GBP 40,000–40,000

**Workplace:** hybrid

**Department:** 5. HE, STEM & International Partnerships

## Description

![](https://workablehr.s3.amazonaws.com/uploads/photos/489330/587daaf1e576f4608879071e2f4f3ef3.png)

**Rheolwr Seren – Academi Seren**

📍 **Lleoliad**: De Cymru

💷 **Cyflog**: £40,000 y flwyddyn

🕒 **Cytundeb**: Llawn-amser, 37.5 awr yr wythnos

📅 **Dyddiad dechrau**: Cyn gynted â phosibl

📄 **Tymor**: Cyfnod penodol tan 31 Gorffennaf 2027, gyda’r posibilrwydd o estyniad o 3 mlynedd

🗓️ **Dyddiad Cau**: 5pm Dydd Mercher 21ain Hydref

### Trosolwg

Ydych chi’n angerddol am addysg a grymuso dysgwyr? Mae Academi Seren Llywodraeth Cymru yn chwilio am Reolwr Seren newydd. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno gyda thîm sy’n darparu cynnig Seren ledled Cymru i’n dysgwyr disgleiriaf.

### Mwy am Academi Seren

Gweledigaeth Academi Seren yw i ddysgwyr, waeth beth fo’u cefndir economaidd-gymdeithasol, gael yr uchelgais, y gallu a’r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn nodau addysgol y dyfodol ar y lefel uchaf. 

Y genhadaeth yw i gefnogi dysgwyr Seren wrth iddynt geisio rhagori drwy dri amcan strategol: 

-   Tanio chwilfrydedd a chymhelliant dysgwyr ar gyfer eu dysgu.
-   Grymuso dysgwyr i wneud dewisiadau uchelgeisiol, gwybodus am eu llwybr addysgol yn y dyfodol. 
-   Datblygu gallu dysgwyr i gyrraedd eu potensial a llwyddo mewn prifysgolion blaenllaw iawn.

Mae Academi Seren yn darparu rhaglen o gefnogaeth arbenigol a anelir at anghenion ein dysgwyr disgleiriaf ac yn darparu rhaglen hybrid o weithgareddau gorgyrsiol i ymestyn a herio dysgwyr, sy’n datblygu o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 13.  

Swyddogaeth a Chyfrifoldebau

Pwrpas y swydd hon yw i:

-   Ymgysylltu gyda a magu perthnasau gyda’ch ysgolion a cholegau AB dynodedig a’u cefnogi i ddethol y dysgwyr priodol ar gyfer Academi Seren
-   Fod yn wyneb i Seren ar gyfer eich canolfannau dynodedig, gan ateb cwestiynau, darparu cyfleoedd yn yr ardal leol i ddysgwyr gael ymgysylltu gyda’i gilydd, codi uchelgeisiau a hunaneffeithiolrwydd dysgwyr i anelu’n uchel.
-   Sicrhau bod y dysgwyr a’r canolfannau yn ymwybodol o’r holl gyfleoedd, gweithgareddau a’r profiadau sydd ar gael iddynt fel rhan o’r Academi. 
-   Fanteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i ysbrydoli dysgwyr a’u dyheadau am eu dyfodol.
-   Ddathlu llwyddiannau dysgwyr a’u canolfannau. 

Y cyfrifoldebau yw i:

-   Sicrhau bod yr holl ddysgwyr Seren a nodir wedi cofrestru gyda’r Academi.
-   Gadw at reoliadau diogelu ar gyfer y grwpiau oedran gwahanol.
-   Weithio ar draws tîm Seren i ddarparu cynnig Cymru gyfan gydgysylltiedig i ddysgwyr.
-   Ymgysylltu gyda dysgwyr i’w hysbysu o’r cyfleoedd sydd ar gael iddynt, sut a phryd i wneud y penderfyniadau cywir ac agor drysau iddynt ymgysylltu gyda’r bobl, sefydliadau ac adnoddau cywir i gefnogi eu llwybrau.
-   Annog dysgwyr i ymgysylltu gydag adeiladu’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer y cyrchfan o’u dewis.
-   Adnabod anghenion y dysgwyr o fewn eich canolfannau dynodedig a gweithio gyda’r tîm i gydweithio ar gyfleoedd.
-   Ddod ag athrawon eich canolfannau dynodedig at ei gilydd i gydweithio ar gyfleoedd.
-   Ymgysylltu gyda a hysbysu rhieni/gofalwyr Seren am sut allant gefnogi eu plentyn y ffordd orau. 
-   Bod yn rhagweithiol o fewn y tîm i gefnogi eraill a rhannu gwybodaeth arbenigol ac arferion da. 
-   Nodi enghreifftiau o ddarpariaeth dda ac astudiaethau achos i ddathlu llwyddiannau.
-   Casglu ac adrodd ar ddata a gwariant i gefnogi gwerthuso a gwelliant parhaus y rhaglen.
-   Mynychu isafswm o ddau gwrs preswyl (a gyfeirir atynt weithiau fel ‘Ysgolion Haf Seren’) bob blwyddyn, er mwyn cefnogi darpariaeth llwyddiannus y cyrsiau preswyl gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) gyfrifoldebau dros ddiogelu, cefnogaeth bugeiliol i ddysgwyr a darpariaeth y rhaglen. 
-   I weithredu unrhyw ddyletswyddau rhesymol eraill y mae eich rheolwr llinell yn gofyn amdanynt er mwyn cyflawni anghenion y swydd a thîm ehangach Seren.

## Requirements

**Am Beth Rydym yn Chwilio**

Rydym yn chwilio am unigolion sydd gan: 

-   Brofiad mewn addysg, gwaith ieuenctid neu allgymorth (mae profiad o weithio gydag ysgolion/colegau yn hanfodol). 
-   Sgiliau cyfathrebu rhagorol a’r gallu i ymgysylltu gyda ac ysbrydoli pobl ifanc, athrawon a rhanddeiliaid ehangach.
-   Llwyddiant blaenorol yn trefnu a darparu gweithgareddau cyfoethogi, gweithdai neu ddigwyddiadau.
-   Sgiliau cynllunio, trefnu a rheoli amser cryf - gyda’r gallu i weithio’n annibynnol ar draws nifer o leoliadau.
-   Angerdd gwirioneddol dros gydraddoldeb mewn addysg, symudedd cymdeithasol a chefnogaeth i ddysgwyr. 
-   Dealltwriaeth o’r tirwedd addysg yng Nghymru ac ymrwymiad i gefnogi dysgwyr yng Nghymru. 
-   Trwydded yrru lawn a’r parodrwydd i deithio yn eang ar draws y rhanbarth a ddynodir.
-   Parodrwydd i weithio’n hyblyg, gan y bydd y swydd yn golygu peth gwaith yn ystod y penwythnos a gyda’r nos, yn ogystal ag amser yn gweithio i ffwrdd i gefnogi cyflawniad cyrsiau preswyl mewn prifysgolion yn y DU.

 Dymunol (ond nid yn angenrheidiol)

-   Statws Athro Cymwysiedig (SAC)
-   Profiad o weithio ar raglenni mynediad i AU neu ehangu cyfranogiad. 
-   Siaradwr Cymraeg (ceir cefnogaeth gydag ysgrifennu a chyfieithu ar y pryd)

## Benefits

-   Cyflog blynyddol o £40,000
-   25 diwrnod o wyliau blynyddol a gwyliau banc ar ben hynny
-   Gweithio hybrid
-   Polisi TOIL am waith gyda’r nos a dros y penwythnos

## Apply

[Apply at Equal Teaching](https://apply.workable.com/equalteaching/j/D3DA41DC0A/apply)

---
Powered by [Workable](https://www.workable.com)
